Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dydd Mawrth 9 Gorffennaf a dydd Mercher 10 Gorffennaf 2013

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf a dydd Mercher 17 Gorffennaf 2013

Toriad: Dydd Llun 22 Gorffennaf 2013 - Dydd Sul 22 Medi 2013

Dydd Mawrth 24 Medi a dydd Mercher 25 Medi 2013

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Cymunedau Mwy Diogel - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bennod 7 o'r Rhaglen Lywodraethu (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau Trafnidiaeth (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am yr Ymateb i'r Adolygiad Strategol o Wasanaethau Ambiwlans Cymru (45 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol Bil Sector Amaethyddiaeth (Cymru) (60 munud)- yn amodol ar y Cynulliad yn cytuno i drin y Bil fel Bil Brys y Llywodraeth ac yn cymeradwyo'r amserlen arfaethedig i'r Cynulliad ystyried y Bil

·         Cynnig i gymeradwyo penderfyniad ariannol Bil Sector Amaethyddiaeth (Cymru) (5 munud)- yn amodol ar y Cynulliad yn cytuno i drin y Bil fel Bil Brys y Llywodraeth ac yn cymeradwyo'r amserlen arfaethedig i'r Cynulliad ystyried y Bil

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):

·         Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (Cymru) 2013

·         Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygiad i Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gofal (15 munud)

·         Dadl: Y GIG yng Nghymru - Dysgu o Ymchwiliad Francis (60 munud)

 

Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

NNDM5266

 

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)

Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn cefnogi'r ymgyrch Dim Mwy o Dudalen Tri ac yn galw ar Bapur Newydd The Sun i roi'r gorau i'r cynnwys hwn.

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (60 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Cartrefi Symudol (Cymru) (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Cartrefi Symudol (Cymru) (5 munud)

·         Dadl Fer - Peter Black (Gorllewin De Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (90 munud)

·         Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth) (Cymru) 2013 (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol (15 munud)

·         Dadl: Y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2013-14 (30 munud)

 

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Sector Amaethyddiaeth (Cymru) (60 munud)- yn amodol ar y Cynulliad yn cytuno i drin y Bil fel Bil Brys y Llywodraeth ac yn cymeradwyo'r amserlen arfaethedig i'r Cynulliad ystyried y Bil.

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os derbynnir y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Sector Amaethyddiaeth (Cymru) (5 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Ddeddfu a’r Eglwys yng Nghymru (60 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Dydd Mawrth 24 Medi 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

 

Dydd Mercher 25 Medi 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Geidwadwyr Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)